DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

 

Cau atyniadau awyr agored

DYDDIAD

11 Rhagfyr 2020

GAN

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS

 

Mae'r sefyllfa yng Nghymru yn ddifrifol iawn; mae cyfraddau coronafeirws yn uchel iawn ac mae'r GIG dan bwysau parhaus.

 

Y cyngor a gafwyd oddi wrth Brif Swyddog Meddygol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yw bod angen inni gymryd camau brys yn awr a fydd yn ein helpu i ddechrau ar gyfnod yr Ŵyl â chyfradd heintio a fydd mor isel â phosibl. Dyna pam rydym wedi penderfynu gofyn i bob ysgol uwchradd symud i addysgu ar-lein ar gyfer wythnos olaf y tymor.

 

O ddydd Llun 14 Rhagfyr ymlaen, byddwn hefyd yn cyflwyno newidiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bob atyniad awyr agored, gan gynnwys ffeiriau pleser, gau. Bydd hefyd yn ei gwneud yn glir bod yn rhaid cau parciau trampolîn a pharciau sglefrio dan do.

 

Bydd y rheoliadau'n cael eu hadolygu'n ffurfiol yr wythnos nesaf.